Psalms 39

Mae bywyd mor fyr

I Iedwthwn
39:0 Iedwthwn Un o gerddorion pwysica y brenin Dafydd – gw. 1 Cronicl 16:41
, yr arweinydd cerdd. Salm Dafydd.

1Dyma fi'n penderfynu, “Dw i'n mynd i wylio fy hun
a pheidio dweud dim byd i bechu.
Dw i'n mynd i gau fy ngheg
tra dw i yng nghwmni pobl ddrwg.”
2Roeddwn i'n hollol dawel,
yn brathu fy nhafod a dweud dim.
Ond roeddwn i'n troi'n fwy a mwy rhwystredig.
3Roedd y tensiwn yno i yn mynd o ddrwg i waeth.
Roeddwn i'n methu ymatal.
A dyma fi'n dweud:
4“O Arglwydd, beth ydy'r pwynt?
faint o amser sydd gen i ar ôl?
Bydda i wedi mynd mewn dim o amser!
5Ti wedi gwneud bywyd mor fyr.
Dydy oes rhywun yn ddim byd yn dy olwg di.
Mae bywyd y cryfaf yn mynd heibio fel tarth!”

 Saib
6Mae pobl yn pasio trwy fywyd fel cysgodion.
Maen nhw'n casglu cyfoeth iddyn nhw eu hunain,
heb wybod pwy fydd yn ei gymryd yn y diwedd.
7Beth alla i bwyso arno, felly, O Arglwydd?
Ti dy hun ydy fy unig obaith i!
8Achub fi rhag canlyniadau fy ngwrthryfel.
Paid gadael i ffyliaid wneud hwyl ar fy mhen.
9Dw i'n fud, ac yn methu dweud dim
o achos beth rwyt ti wedi ei wneud.
10Plîs paid dal ati i'm taro!
Dw i wedi cael fy nghuro i farwolaeth bron!
11Ti'n disgyblu pobl mor llym am eu pechodau,
er mwyn i'r ysfa i bechu ddiflannu
fel gwyfyn yn colli ei nerth.
Ydy, mae bywyd pawb fel tarth!

 Saib
12Clyw fy ngweddi, O Arglwydd.
Gwranda arna i'n gweiddi am help;
paid diystyru fy nagrau!
Dw i fel ffoadur, yn dibynnu arnat ti.
Fel fy hynafiaid dw i angen dy help.
13Stopia syllu mor ddig arna i.
Gad i mi fod yn hapus unwaith eto,
cyn i mi farw a pheidio â bod.
Copyright information for CYM